Croeso i beilot gweithio o bell a chyd-weithio Hub Cymru

Rydym yn ymgyrchu dros fyd o waith sy'n deg ac yn gyfartal i bawb, lle gall busnesau bach oroesi a ffynnu, lle gall gweithwyr sy’n gweillio o bell fod yn rhydd o ynysiad gweithio o gartref.

Cymraeg - Yn ystod 2020 o ganlyniad uniongyrchol COVID 19, cafodd mwy na hanner gweithlu'r DU eu hadleoli ac maent bellach yn gweithio o gartref neu wedi delio â rhyw fath o aflonyddwch ar ofod gwaith. Yng Nghymru efallai na fydd o leiaf 30% o'r gweithlu hwnnw byth yn dychwelyd i'r amgylchedd gwaith traddodiadol, tra gall eraill ddisgwyl gweithio o gartref ymhell i mewn i 2021.

Gad i ni rhoi Diwedd i leision y Swyddfa Gartref

Profwyd bod gweithio o gartref yn achosi ystod eang o faterion, gan gynnwys mwy o unigedd, dadleoli, lleihau cymhelliant, a chynyddu straen ar berthnasoedd teuluol.

Ar 13/09/2020 rhyddhaodd Llywodraeth Cymru ddatganiad yn nodi eu bod bellach yn disgwyl i fwyafrif eu staff a 30% o weithwyr yng Nghymru gweithio o gartref yn barhaol. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi; “Mae am roi mwy o hyblygrwydd i weithwyr ledled Cymru weithio o bell ac mae’n credu bod gan hyn y potensial i yrru adfywio a’r weithgaredd economaidd mewn cymuneda

https://gov.wales/aim-30-welsh-workforce-work-remotely

"Am dros ddegawd rydym wedi cynnig lle gwaith ystwyth sy'n ddiogel ac yn lân, mewn lleoliadau sydd fel arall wedi cael eu hanwybyddu fel canolfannau gwaith posib."
MIKE SCOTT - Cyfarwyddwr Indycube

Peilot Gweithle Cymunedol 2021

Wedi'i ysbrydoli gan newidiadau newydd yn y gweithle, bydd Indycube yn ehangu ei rwydwaith cyd-weithio i wardiau a rhanbarthau gwledig newydd. Byddwn yn cefnogi busnesau a sefydliadau sydd wedi tanddefnyddio gweithle masnachol neu gymunedol ac yn eu helpu i addasu ar gyfer cyd-weithio a desgiau poeth. Byddwn wedyn yn paru'r rhain â gweithwyr sy’n weithio o gartref yn y sector preifat a chyhoeddus, gweithwyr sy’n gweithio ar liwt eu hun, yr hunangyflogedig a weithwyr sy’n weithio o bell ac yn cynnig gweithle lleol diogel, sy’n cydymffurfo â rheoliad COVID tymor hir.

I gychwyn, ein nod yw treialu ein cynllun ar draws wardiau gwledig Abertawe (wrth gefnogi a gwella ein rhwydwaith presennol ymhellach), gan weithio gydag asedau sydd eisoes yn bodoli yn yr amgylchedd lleol.

Gallai'r rhain gynnwys.

  • Mannau Swyddfa Traddodiadol
  • Canolfannau Cymunedol
  • Neuaddau Eglwys
  • Neuaddau Chwaraeon
  • Canolfannau Ffitrwydd

I Orffen

Trwy ein cynllun peilot rhwydwaith gwledig ac ymchwil ar lawr gwlad, ein nod yw dangos y gall lleoedd cyd-weithio tymor byr a gynhelir ac a ddatblygir ar lefel leol gael ymateb adferiad ar uniongyrchol a chynnig effaith gadarnhaol ar y difrod a achosir gan ddadleoli’r gweithle yn sgil COVID19

Tymor Byr

  • Darparu dewis arall uniongyrchol ac hydrin yn lle gweithio o gartref
  • Darparu lleoedd sy'n sensitif i’r leoliad a’r gymuned; gall pobl leol olrhain yn haws, a bod yn wyliadwrus i botensial achosion newydd?
  • Cael ymateb cyflymach a mwy priodol i achosion COVID lleol a chyfyngiadau symud  

Tymor Hir

  • Caniatáu gwell ymdeimlad o strwythur a chyfeillgarwch yn y gweithle i weithwyr ar lefel leol
  • Adeiladu ffrydiau refeniw newydd ar gyfer darparwyr mannau lleol
  • Lleihau'r angen am gymudiadau diangen a'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus
  • Helpu i gefnogi ac adeiladu economi leol fwy gwydn; gweithio'n lleol, siopa'n lleol, byw’n lleol 
  • Cynyddu'r ffocws ar deithio’n actif fel dewis arall yn lle trafnidiaeth gyhoeddus a phreifat
"Rydyn ni bob amser wedi credu y gall lleoedd cyd-weithio lleol sy'n cael eu gyrru gan y gymuned gael effaith sylweddol ar adfywio ar lefel leol a chymunedol."
MIKE SCOTT - Cyfarwyddwr Indycube

Cymryd Rhan

Mae HUB.CYMRU yn brosiect peilot sy'n cael ei bweru gan gymuned Indycube.

Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.